ar lan y mor

katherine jenkins

ar lan y mor mae rhosys cochion

ar lan y mor mae lilis gwynion

ar lan y mor mae 'nghariad inne

yn cysgu'r nos a chodi'r bore

ar lan y mor mae carreg wastad

lle bum yn siarad gair a'm cariad

oddeutu hon fe dyf y lili

ac ambell sbrigyn o rosmari

llawn yw'r mor o swnd a chegryn

llawn yw'r wy o wyn a melyn

llawn yw'r coed o ddail a blode

llawn o gariad merch wyf inne

ar lan y mor mae cerrig gleision

ar lan y mor mae blodau'r meibion

ar lan y mor mae pob rinweddau

ar lan y mor mae nghariad innau